Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 8 Mehefin 2023
Amser:
09.34 -
13.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13361
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Hefin David AS Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Sarah Murphy AS |
Tystion: |
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Duncan Hamer, Llywodraeth Cymru Peter Ryland, Llywodraeth Cymru Aine Gawthorpe, Llywodraeth Cymru Llŷr ap Gareth, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru David Hoare, GE Aerospace Professor David Pickernell, Prifysgol Abertawe Janis Richards, Made UK Professor Keith Ridgway, Industry Wales Mary Williams, Unite |
Staff y Pwyllgor: |
Rob Donovan, Clerc Lara Date, Ail Glerc Evan Jones, Dirprwy Glerc Ceri Thomas, Swyddog Cymorth y Pwyllgor Ben Stokes, Ymchwilydd Gareth Thomas, Ymchwilydd |
1 Cyllid datblygu rhanbarthol wedi’r UE: Canfyddiadau yn sgil gwaith ymgysylltu
1.1 Trafododd y Pwyllgor ganfyddiadau’r tîm Ymgysylltu â Dinasyddion ar gyllid datblygu rhanbarthol wedi’r UE.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
2.2 Datganodd Sarah Murphy AS ei bod yn aelod o Unite Cymru.
3 Papurau i'w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
3.1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwblhau Prentisiaethau
3.2 Adroddiad gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Fframweithiau Cyffredin
3.3 Y DU/Iwerddon/CE: Cytundeb Ariannu ar Raglen PEACE PLUS 2021-2027
3.4 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2)
3.5 Cyllid datblygu rhanbarthol wedi’r UE: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin
3.6 Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Y Flaenraglen Waith
3.7 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol
3.8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
3.9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig
3.10Cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach
3.11Ymchwiliad y Pwyllgor i gyllid datblygu rhanbarthol wedi’r UE
3.12Bil Bwyd (Cymru): Adroddiadau Cyfnod 1
3.13Adolygiad ynghylch Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021
3.14Bridwyr hadau indrawn porthiant
3.15Gorchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Diwygio) 2023 (Gorchymyn 2023)
3.16Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Ymgysylltu
4 Cyllid datblygu rhanbarthol wedi’r UE: Gweinidog yr Economi
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru.
5 Gweithgynhyrchu yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1 – Gweinidog yr Economi
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi.
5.2 Cytunodd Gweinidog yr Economi i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda gwybodaeth ychwanegol am y cynllun gweithredu gweithgynhyrchu ar ei newydd wedd yn manylu ar yr amserlenni tymor byr, tymor canolig a thymor hwy ar gyfer y pwyntiau gweithredu unigol.
5.3 Cytnodd y Pwyllgor y byddai’n ysgrifennu at y Gweinidog ar ôl y sesiwn gyda chwestiynau dilynol.
6 Gweithgynhyrchu yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 2
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y panel gydag unrhyw gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn.
7 Gweithgynhyrchu yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 3
7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
8.1 Derbyniwyd y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
9 Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
10 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor
10.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chytunodd arni.